Amdanom ni
Y mae prosiect Lleisiau Amaethyddiaeth wrthi ar
hyn o bryd yn creu cronfa ddata o wybodaeth lafar a darluniadol o'r
newidiadau a'r dylanwadau sydd wedi effeithio ar amaethyddiaeth yng
Nghymru ers 1947.
- Dechreuwyd ar y Cynllun Peilot ym mis Mai 2003 gydag apwyntiad
Cydlynydd i'r prosiect. Cafodd Swyddog Gweinyddol ei hapwyntio
yn Hydref 2003.
- Cesglir gwybodaeth
yn Sir Gaerfyrddin gyda'r bwriad o ehangu i siroedd eraill.
- Daw siaradwyr o wahanol gefndiroedd,
grwpiau oed a phrofiadau amaethyddol.
- Cynhelir y recordiadau yn
y Gymraeg a'r Saesneg.
- Ystyrir goblygiadau economaidd a chymdeithasol
newidiadau ym myd amaeth a'r gymdeithas wledig, yn ogystal â goblygiadau
polisïau'r llywodraeth.
- Cedwir y disgiau gan y prosiect ei hun, yn Amgueddfa Werin
Sain Ffagan ac yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
- Bydd yr wybodaeth ar gael ar gyfer defnydd
addysgiadol ac i arbenigwyr a'r cyhoedd, trwy amrywiaeth o gyfryngau
a dulliau eraill o ddosbarthu.
- Bydd enghreifftiau o'r ymchwil
yn ymddangos yn rheolaidd ar y wefan hon.
Y mae prosiect Lleisiau Amaethyddiaeth yn cael ei oruchwilio
gan Ymddiriedolaeth Adfywio Treftadaeth
Sir Gaerfyrddin gyda
chefnogaeth gychwynnol gan Coleg
y Drindod, Caerfyrddin ac Asiantaeth Iaith.
Diolchiadau
Diolch i'r pobl canlynol am y lluniau sy'n ymddangos ar bob tudalen
y wefan:
- Tegwen Williams, Llandeilo am y llun "Te yn y beudy"
- Nick Somerfield, Bethlehem am lun y gwartheg;
- Ann a Brian Walters, Caerfyrddin am lun y peiriannau amaethyddol.
|