Un o'r newidiadau mwyaf amlwg yw'r cynydd mawr
sydd wedi bod yn nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu cadw, fel
y mae Elfryn Daniels o Felingwm Isaf yn sôn:
"Ar y start, lle bach i ddeg buwch, dwy drisiad [buwch
ifanc] a phedwar ceffyl; pan gwplon ni'r godrodd gyda ni
rhyw gant a hanner o wartheg o bob math. A wedyn gallwch chi
weld eich hunan, os odd pawb yn 'neud 'na, odd e'n arwain at
sefyllfa lle odd gor-gynhyrchu yn cymeryd lle."
|
Er bod ganddynt cymaint o dda, roedd ef a'i wraig yn eu nabod
nhw i gyd :
"Nelo ni sêl o'r gwartheg godro yn 1995. Odd e'n
benderfyniad anodd iawn i 'neud achos odd 'da ni shwt feddwl
o'r da; welon ni ihe'r da, eu cwmni nhw, pob un â'u
enw."
|
|
| < Yn ôl i dudalen
"Rhai o'r lleisiau a'r lluniau" |
|