Mae Sharon Richards a'i gŵr yn ffermio
yn fferm Allt-y-Fyrddin, Abergwili, ger Caerfyrddin. Fe enillodd
hithau deitl Ffermwraig y Flwyddyn (2004) a drefnwyd gan NFU
Cymru / Nat West.
Roedd Sharon wedi cael swydd gyda
chwmni cyfrifwyr yn Hen Dŷ Gwyn ar Dâf ar ôl gadael coleg Pibwrlwyd
ar ddiwedd y 1970au. Dyma rhai o'i hatgofion :
"'Ngwaith, ma hwnna wedi newid tipyn yn y deg mlynedd
bues i 'na. Delio y rhan fwyaf o'r amser gyda ffermwyr. Yr
hen ffermwyr yn dod mewn :
'Co chi, y bocs. Co'r Bank Statement heb 'i agor.'
Os odd e'n gweud Inland Revenue arno odd e heb 'i
agor.
'Stock – details stock i chi' – back sigaret pacyn. Y rhan
fwyaf, y peil invoices, odd dim ishe neud y VAT na
dim byd arno nhw.
Ond y drueni odd ar diwedd eu dydd nhw wedi 'ny odd y wraig
yn dod mewn, ddim yn gwbod hyd yn oed shwd i seino siec.
Y Electric
Bill, beth y'f fi fod i neud ag e. Dod mewn â cheque
book ac erioed wedi cael y siawns gyda'i gŵr i neud
y pethe 'na a ddim yn gwbod beth odd.
A 'na rhywbeth fi wedi gweld yn y cymuned wedi newid achos
y ffordd odd, odd y wraig yn ishte'n dawel tu ôl yn mynd mlân
â'r gwaith a'r gŵr yn rhedeg y busnes ar y ffarm, dim y wraig.
Y pethe 'na wedi newid. Wrth gwrs nawr ma popeth ar compiwters,
ma popeth gorfod..."
Maent hwy wedi arall-gyfeirio ac wedi agor Canolfan
Dreftadaeth ar eu fferm. Sonia am yr angen i ffermwyr farchnata
eu cynnyrch ac hefyd i fod yn fwy agored i'r cyhoedd :
"Mae'n rhaid i ni fel ffermwyr i meddwl mwy
– ar ôl cynhyrchu ma ishe ni i symud mlân. Beth y'n
ni'n neud ag e. Dim point meddwl : 'O ni'n ôl reit,
eiff rhywun off ag e'. Mae
rhaid i ni feddwl ml ân a mae rhaid i ni i ddysgu'r cyhoedd
am beth y'n ni'n neud a'r ffordd y'n ni'n cynhyrchu a dangos,
edrych mwy positive ar bethe, ateb eu cwestiyne nhw
a dim cuddio pethe. Dim bo ni yn cuddio – falle bo ni rhy agored
o weld beth sy'n mynd mlân yn rhai ffermydd eraill Ewrop. Ond
ma rhaid i ni weithio'n agosach gyda'r cyhoedd a croesawi nhw
i'n ffermydd. Dangos i nhw beth sy'n mynd mlân. Ma 'na lot
o'r cyhoedd ddim yn gwbod a ddim yn deall a ni'n colli wedi
'ny farchnad fory."
Sonia hefyd am bwysigrwydd yr amgylchedd :
"Benthyg y tir i ni am y genhedlaeth i ddod a gofalu
am y tir gore gallwn ni, ar ôl ein amser ni bydd rhywun arall
i dod. Ni 'di cal y tir gan ein cyndadau yn picil lle dda –
mae yn hyfryd iawn i bawb...
"A y'n ni'n sylweddoli, yn enwedig yng Nghymru, ma rhaid
i ni gâl y cloddie a'r adar a'r anifeiliaid gwyllt achos ma
twristiaeth yn rhan mor bwysig i gadw cefn gwlad yn ein gwlad
fach ni."
Cewch fwy o wybodaeth am fenter Sharon ar eu gwefan: www.merlinshill.com
|